PhyllisEVANSHydref 7, 2022 Yn dawel ar ôl cyfnod o salwch, yn Ysbyty Gwynedd, o 2 Rhes Cynfi, Deiniolen yn 91 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Ellis Evans (Garnedd). Mam a mam-yng-nghyfraith garedig Carolyn a John, nain addfwyn Steven a Ffion; hen nain falch Efa a Macsen; chwaer hoffus Megan ac Enid; chwaer-yng-nghyfraith a modryb hoff. Colled drist i'w theulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Iau, Hydref 20, 2022 am 11.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at elusennau lleol. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Phyllis